Wythnos Siarad Arian Siarad Phensiynau 2019
Thema’r Wythnos Siarad Arian Siarad Phensiynau 2019 yw lles ariannol.
Mae lles ariannol yn ymwneud â phobl yn teimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth – gan wybod nid yn unig eu bod yn gallu rheoli o ddydd i ddydd a delio â’r annisgwyl, ond eu bod hefyd yn adeiladu tuag at ddyfodol ariannol iach.
Mae cenedl sy’n iach yn ariannol, nid yn unig yn dda i unigolion, ond hefyd i gymunedau, busnes a’r economi.
Trwy’r wythnos, rydym am annog mwy o bobl i weithredu i wella eu lles ariannol eu hunain a lles ariannol y rhai o’u cwmpas – p’un ai trwy gael mynediad at gyngor ar ddyledion am ddim, cynilo’n rheolaidd, ceisio addysg ariannol neu ddibynnu llai ar gredyd am wariant bob dydd.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Pawb!
Mae Wythnos Siarad Arian Siarad Phensiynau yn gyfle gwych i ymuno, dechrau neu arwain y sgwrs. Mae ar gyfer unrhyw un, neu unrhyw sefydliad, sy’n gweithio i helpu pobl i ddelio’n well â materion ariannol, neu unrhyw sefydliad sydd eisiau dysgu mwy am les ariannol a’r hyn y gallai ei olygu iddyn nhw.
Rwyf am wella lles ariannol i…
Chwilio am help arian neu bensiynau?
Mae Pension Wise, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gyd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i bobl sydd am siarad am arian a phensiynau.

Canllawiau pensiwn i bobl dros 50 oed gyda phensiwn personol neu bensiwn gweithle.
0800 138 3944 Darganfyddwch fwy
Canllawiau pensiynau diduedd am ddim ar bensiynau gweithle a phersonol i bawb.
0800 011 3797 Darganfyddwch fwy
Canllawiau ariannol, teclynnau a chyfrifianellau i helpu gwella'ch holl arian.
0800 138 0555 Darganfyddwch fwy